Bernice Rubens

Bernice Rubens
Ganwyd26 Gorffennaf 1923 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 2004 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Royal Free Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, llenor, sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Swyddbeirniad Gwobr Booker Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Man Booker Edit this on Wikidata

Nofelydd o Gymraes oedd Bernice Rubens (26 Gorffennaf 192813 Hydref 2004). Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Booker, yn 1970 am The Elected Member.

Fe'i ganed yn ardal Splott, Caerdydd yn ferch i Eli Reuben, mewnfudwyr Iddewig a'i wraig Dorothy. Roedd ei thad yn hannu o Lithwania ac yn bwriadu teithio i Efrog Newydd am fywyd newydd yn yr UDA. Ar ôl cael ei dwyllo gan werthwr tocynnau yn Hamburg, ni gyrhaeddodd yn bellach na Chaerdydd a penderfynodd aros yno. Roedd teulu ei mam wedi ffoi o Wlad Pwyl.[1]

Ysgrifennodd Rubens 24 o nofelau, a’u themau’n amrywio o deulu i Iddewiaeth.

Yn Mehefin 2024, dadorchuddiwyd Plac Porffor ar hen dŷ ei theulu yn y Rhath, Caerdydd. Cafodd cynllun Placiau Porffor ei lansio yn 2017 gan wirfoddolwyr er mwyn gwella ymwybyddiaeth o gyfraniad menywod yng Nghymru.[2]

  1. "Dadorchuddio Plac Porffor er cof am y Gymraes gyntaf i ennill Gwobr Booker". Golwg360. 2024-06-21. Cyrchwyd 2024-06-21.
  2. Morris, Steven (2024-06-21). "Bernice Rubens, first woman to win Booker, honoured with Cardiff plaque". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-06-21.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy